Diolch yn fawr i bawb a ddaeth trwy’r glaw i’n gweithdy cyntaf i randdalwyr ym Mharc Eirias. Roedd yn wych gweld cymaint ohonoch ac i ddechrau’r gwaith ar Gynllun Cynefin Ardal Bae Colwyn.
Cofiwch gadw llygad agored am fwy o gyfleoedd i gymryd rhan gyda Chynllun Cynefin Ardal Bae Colwyn.
Dros y misoedd i ddod bydd digon o gyfleoedd i chi gymryd rhan ac mae sut a phryd y dewiswch wneud hyn yn eich dwylo chi.
- Sesiynau ‘galw i mewn’ yn Hen Golwyn, Llandrillo-yn-Rhos, Bryn-y-Maen a chanol tref Bae Colwyn.
- Holiadur ar-lein
- Gweithgareddau rhyngweithiol ar-lein
- Gweithdai yn yr ysgolion lleol
- Digwyddiadau grwpiau ffocws ar-lein
- Cystadleuaeth gelf i bobl ifanc
Cadwch olwg ar y safle yma i gael y diweddaraf neu rhowch wybod i ni yr hoffech fod ar y rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf: https://www.colwynplaceplan.com/get-in-touch
Comments