top of page

Gall Cynllun Cynefin Colwyn alluogi’r gymuned leol i lunio datblygiadau’r dyfodol yn gadarnhaol trwy gysylltu â, ac ychwanegu manylion lleol at bolisïau cynllunio a osodir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. 

Gall hyn, er enghraifft, cynnwys manylion lleol ynghylch:  

  

  • Gwarchod a gwella ein hamgylchedd naturiol a’n mannau agored 

 

  • Mentrau i hyrwyddo teithio llesol megis beicio a cherdded 

 

  • Syniadau arloesol i helpu lliniaru newid hinsawdd yn lleol 

 

  • Helpu’r gymuned a busnesau lleol i ffynnu yn ogystal â chroesawu ymwelwyr 

​

Cyflwynwyd Cynlluniau Cynefin gan Lywodraeth Cymru fel dull o annog mwy o ymgysylltiad cymunedol mewn gwneud penderfyniadau ar gynlluniau lleol. Maent yn galluogi ychwanegu mwy o wybodaeth leol a manylion at y Cynllun Datblygu Lleol gan gymunedau lleol. 

​

Mae’r tîm wedi nodi tair thema gychwynnol – sef Pobl, Cymuned a Lle  - ac mae’n dymuno clywed eich safbwyntiau ar yr holl agweddau sy’n bwysig i chi o fewn yr ardal. Bydd y Cynllun Cynefin yn berthnasol i ardaloedd Bae Colwyn, Hen Golwyn Llandrillo-yn-Rhos a Bryn-y-Maen. (Gweler y Map Gwirio Lleoliadau). 

 

Darganfyddwch fwy am Gynlluniau Cynefin ar ein Tudalen Cwestiynau ac Atebion

bottom of page