top of page
Ble mae ardal Bae Colwyn?

Mae ardal Bae Colwyn yn cynnwys tref arfordirol Bae Colwyn yng Ngogledd Cymru ynghyd a’r cymunedau cyfagos - Hen Golwyn yn y Dwyrain a Llandrillo-yn-Rhos yn y Gorllewin, gan ymestyn yn fewndirol trwy Goedwigoedd Pwllycrochan i gynnwys Bae Colwyn Uchaf a phentref Bryn y Maen (amcangyfrif cyfanswm y boblogaeth yw 25,000).  

​

Mae Bae Colwyn wedi ei lleoli’n berffaith hanner ffordd ar hyd Arfordir Gogledd Cymru gyda chysylltiadau trafnidiaeth da, a gwasanaethau bysiau a threnau rheolaidd a mynediad rhwydd o ffordd ddeuol yr A55.

bottom of page