
Dyn ni eisiau gwrando arnoch chi Dweud eich dweud heddiw.
Cliciwch yma
Byddwch yn Rhan o Sgwrs Gymunedol ardal Bae Colwyn!
Tîm Cynllunio Cymunedol ardal Bae Colwyn ar fin dechrau gweithio ar baratoi “Cynllun Cynefin” a fydd yn hysbysu a llunio dyfodol eich cymuned.
Y tîm annibynnol sy’n arwain y broses yw grŵp o bobl â diddordeb sydd wedi eu noddi gan Gyngor Tref Bae Colwyn.
Y bwriad yw annog mwy o ymgysylltiad cymunedol mewn cynllunio lleol a materion llesiant ac i ymrwymo pobl leol ac ymwelwyr mewn gwneud penderfyniadau.
Yn y broses o baratoi Cynllun Cynefin mae’r tîm yn dymuno cynnal sgwrs gyda’r rhai sy’n byw, gweithio ac ymweld ag ardal Bae Colwyn.
Rydym am glywed eich safbwyntiau ar “ddyfodol ardal Bae Colwyn” dan dair thema i gychwyn:
-
Pobl
-
Cymuned
-
Lle
Bydd y Cynllun Cynefin yn berthnasol i ardaloedd Bae Colwyn, Hen Golwyn, Llandrillo-yn-Rhos a Bryn-y-Maen. (Gweler y Map Gwirio Lleoliad)


