top of page

Tudalen Newyddion a Diweddariadau 

Cam un

Apwyntiwyd Cymorth Cynllunio Cymru yn nhymor yr Hydref 2021 i gynorthwyo tîm cynllunio cymunedol ardal Bae Colwyn i symud y gwaith yn ei flaen ar y Cynllun Cynefin.

 

“Rydym wrth ein bod di fod yn gweithio gyda Chyngor Tref Bae Colwyn a’r rîm cynllunio cymunedol i symud y gwaith ar eu Cynllun Cynefin yn ei flaen. Mae gwaith o’r math hwn yn bwysig iawn i Gymorth Cynllunio Cymru gan ei fod wrth wraidd ein hymrwymiad sylfaenol i gynllunio sydd wedi ei arwain gan gymunedau.  Mae’n tîm yng Nghymorth Cynllunio Cymru yn edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’r amrywiaeth o grwpiau, sefydliadau a busnesau yn ardal Bae Colwyn dros y misoedd i ddod i glywed eu safbwyntiau ar ddyfodol eu hardal.”

 

James Davies, Prif Weithredwr  

bottom of page