top of page
Mwy am Gynlluniau Cynefin 

Arweinir cymunedau lleol fel arfer gan Gynghorau Cymuned a Thref ac mae Cynlluniau Cynefin yn cynnig i’r cymunedau hynny gyfle ffurfiol i ychwanegu haen leol o fanylion at y cynlluniau strategol ehangach a gynhyrchir gan awdurdodau cynllunio lleol. Felly, mae Cynllun Cynefin: 

​ 

  • yn gosod canllawiau cynllunio lleol ar ddefnyddio a datblygu tir

  • yn cysylltu â, cryfhau a lleoleiddio polisïau cynllunio a ddatblygir gan y Cyngor Sir   

  • yn cael ei ysgrifennu gan bobl leol sy’n adnabod ardal yn dda ac sy’n gallu ychwanegu mwy o fanylion i’r gwaith a wneir gan gynllunwyr yr awdurdod lleol ac 

  • yn gallu cynnwys adran di-gynllunio sy’n delio ag ystod eang o faterion lleol. 

​​ 

Trwy gydweithrediad creadigol gyda’r awdurdod cynllunio lleol, gall cymunedau ddatblygu canllawiau, wedi eu harwain gan y gymuned, yn eu Cynllun Cynefin, er mwyn cyflawni uchelgeisiau lleol o ran cynllunio yn y dyfodol. 

Pa statws sydd i Gynlluniau Cynefin?

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn paratoi Cynllun Datblygu Lleol Amnewid (RLDP) ar gyfer y cyfnod 2018 - 2033. Bydd y cynllun yn dosrannu tir i’w ddatblygu, dynodi ardaloedd i’w gwarchod ac yn cynnwys polisïau sy’n darparu’r sail ar gyfer penderfyniadau ar geisiadau cynllunio.

  

Bydd Cynllun Cynefin Colwyn yn cael ei baratoi ochr yn ochr â’r RLDP gan gynnig mecanwaith ar gyfer cyfranogaeth a gwybodaeth leol a chasglu tystiolaeth i lunio a hysbysu datblygiad polisïau ar gyfer ardal Bae Colwyn.  

 

Gall Cynllun Cynefin Colwyn ddod yn Ganllaw Cynllunio Atodol (SPG).

Oes raid i ni baratoi Cynllun Cynefin?

Nag oes. Mae’n gyfle i gymunedau ymgysylltu â’r system gynllunio - a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru. Gellir defnyddio Cynllun Cynefin i alluogi mewnbwn cadarnhaol a rhagweithiol i’r system gynllunio leol, a thrwy hynny roi mwy o ddylanwad i’ch cymuned dros benderfyniadau cynllunio ac ychwanegu eich manylion lleol chi i Gynllun Datblygu Lleol Amnewid a Chynllun Llesiant Conwy.

  

Gellir defnyddio’r dystiolaeth a’r wybodaeth a danategir yn eich Cynllun Cynefin i sicrhau cyllid yn y dyfodol ar gyfer gweithgareddau a phrosiectau a nodwyd.

 

Mae’r tîm yn dymuno cael sgwrs gyda’r gymuned leol am holl agweddau bywyd cymunedol o fewn ardal Bae Colwyn – felly cymerwch ran da chi! 

Beth yw’r berthynas rhwng y Cynllun Cynefin a Chynllun Datblygu Lleol Sir Conwy? 

Bydd Cynllun Cynefin Colwyn yn rhoi cyfle i gymunedau ardal Bae Colwyn, ynghyd â chymunedau Hen Golwyn i’r Dwyrain a Llandrillo-yn-Rhos i’r Gorllewin, i ychwanegu haen leol o fanylion at y Cynllun Datblygu Lleol Amnewid (RLDP) sy’n cael ei baratoi ar hyn o bryd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

​ 

Rhoddir tystiolaeth y Cynllun Cynefin a gesglir gan gymunedau ardal Bae Colwyn dros y misoedd i ddod i’r tîm cynllunio yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i’w hystyried.   

​

Unwaith bydd cynllun drafft Cynllun Cynefin Colwyn wedi ei gwblhau – aiff ymlaen at Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i’w gymeradwyo.  Y bwriad yw mabwysiadu’r Cynllun Cynefin fel Canllaw Cynllunio Atodol (SPG).  

​ 

Bydd y Cynllun Cynefin yn rhoi cyfle i gymunedau yn ardal Bae Colwyn i leisio’u barn ar sut y dylid datblygu eu hardal dros y 10 i 15 mlynedd nesaf a bydd yn annog mwy o ymrwymiad cymunedol mewn gwneud penderfyniadau cynllunio.   

​ 

 

Grŵp llywio o bartïon â diddordeb yw tîm cynllunio cymunedol ardal Bae Colwyn a nhw sy’n llywio’r broses o baratoi Cynllun Cynefin Colwyn.  Y bwriad yw annog mwy o ymgysylltiad cymunedol mewn cynllunio lleol a llesiant ac ymrwymo’r gymuned leol mewn gwneud penderfyniadau.  

 

Er ei reoli ran fwyaf gan y tîm cynllunio cymunedol, mae paratoi Cynllun Cynefin yn ymarfer cydweithredol mewn gwirionedd. Bydd sicrhau bod ein cymuned a’r busnesau lleol yn ymwybodol, yn ganolog i’r broses o baratoi’r Cynllun Cynefin. 
 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gweithio gyda ni a byddant yn darparu tystiolaeth, gwybodaeth, canllawiau a chymorth. 
  
Cefnogir Cyngor y Dref yn y gwaith hwn gan Gymorth Cynllunio Cymru.  

bottom of page